Tystlythyrau

"Yr elfennau y gwnes i ddarganfod y fwyaf buddiol oedd ennill perspectif ehangach o’r strategaethau er mwyn ymgorffori llais y dysgwr i wella allbwn a chyrhaeddiad y disgyblion."

Martin Ryan, Assistant Head teacher, Blaengwawr Comprehensive School

"Roedd y strategaethau a’r syniadau yn fuddiol tu hwnt, yn enwedig y model VCOP er mwyn datblygu sgiliau ysgrifennu, y rhaglen fentora Cyfaill Allweddol a’r syniad o fentora ar draws y cyfnodau allweddol."

Rob Downs – Caldicot Comprehensive School – Codi Cyraeddiad Addysgol Bechgyn

"Cafodd y cwrs ei chyflwyno’n dda gyda chyfleoedd i drafod sut fasai ambell brosiect yn medru cael eu cyflwyno i fewn i fframwaith yr Ysgol a  thasgau grwp wedi ei hadeiladu’n gelfydd i’r cyfan.  Cwrs dymunol, ystyrlon a fydd yn fy ysgogi i edrych ar fechgym mewn goleuni newydd. Roedd y syniad VCOP yn syml a gellir ei gyflwyno cyn pen dim."

Juliet Grabner, Caldicot Comprehensive School, Raising Boys Educational Achievement

“Yr elfennau mwyaf buddiol oedd yr adnoddau a chynnwys y cwrs.”

Beth Jones, Ysgol Fflint, Hybu Dwyieithrwydd

“Adnoddau gwych! Cynnwys y cwrs yn fuddiol tu hwnt.”

Mark Thomas, Ysgol John Summers, Hybu Dwyieithrwydd

"Gwybodaeth glir o ofynion Estyn a gyflwynwyd gan Alwyn Thomas yn fuddiol tu hwnt a’r gallu i gwestiynu Alwyn ac Andy a’u parodrwydd i ateb cwestiynau yn onest yn elfin arbennig i’r cwrs."

Anwen Jones, Dirprwy dros dro, Acting Deputy Head teacher- Ysgol Bro Ddyfi

"Roedd cynnwys ymarfero y cwrs yn hynod fuddiol.  Fe dynnwyd ar brofiad y darparwr ac felly rhoddwyd ystyr real i’r holl beth."

Stephen Jones, Deputy Headteacher, Cardiff High School

“Eglurhad clir a chyfle i drafod a’r darparwyr. Alwyn Thomas yn agored ac effeithiol iawn ac yn dod drosodd fel dyn arbennig o dda.”

Dafydd Jones, Head teacher, Ysgol Bro Ddyfi

"Perthnasedd trafodaethau a stôr o syniadau a deunyddiau y gellid eu defnyddio ‘fory nesa’ yn y dosbarth."

Keri Morgan, Prifathrawes, Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaun Cae Gurwen

"Cyflwyniad chir a phwrpasol. Strategaethau i’w defnyddio nôl yn syth yn y dosbarth. Gweld deunyddiau gweledol yn gret."

Martin Evans, Prifathro, Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaun Cae Gurwen

"Awyrgylch cadarnhaol, ffres. Darparwr hynod o effeithiol, brwdfrydig a diddorol dros ben sydd â phrofiad o’r ystafell ddosbarth – diolch. Deunydd arbennig wedi’i rhoi i’w defnyddio nôl yn yr ysgol."

Bethan Williams, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gyfun y Strade

"Mwynheuais ddysgu am syniadau newydd i hybu sgiliau bechgyn – megis VCOP a DEAR."

Lee James, Dirprwy Bennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Brynsierfel

"Cwrs ardderchog gydag hyfforddwraig hamddenol iawn, llawn ffeithiau ac yn amlwg yn wybodus iawn. Adnoddau’n werthfawr iawn ac yn y Gymraeg!  Syniadau ar lawr y dosbarth yn ymarferol iawn – gwych!"

Rhian Davies, Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdar

"Adnoddau grêt – hyfryd i dderbyn pethau yn y Gymraeg. Cwrs yn hamddenol ac yn hwylus iawn."

Bethan Williams – Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdar

“Cwrs cynhwysfawr tu hwnt yn cynnig nifer o strategaethau i daclo bwlian.  Roedd y syniad o ymgorffori llais y dysgwr wrth adeiladu ac ysgrfiennu polisi gwrth-fwlio yn hynod berthnasol.”

Elin Thomas, Ysgol Gynradd Arberth – Bwlio

“Cyflwyniad gwych ac arweiniodd i drafodaethau grwp diddorol ac ysgogi meddwl.  Roedd y tasgau yn berthnasol ac fe fydd y syniadau ynglyn â gwella cymhelliant bechgyn yn cael eu defnyddio yn fy ngwaith bugeiliol ac addysgu dyddiol.”

Mark Stephen, Ysgol Gyfun Porthcawl - Ysgogi Pobl Ifanc NEET

 "Llawer o gyngor ymarferol, mwynheuais gynllun y cwrs yn ddirfawr, roedd yn gyfle gwych i rhwydweithio gyda phobl gwahanol.’

Pauline Campbell, Darlithwraig – Coleg Cwm Forth, Yr Alban

“Fe wnes i fwyhau pob agwedd o’r diwrnod, roedd yn rhagorol”

Louise Simpson, Tîm PREVENT Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr – Ysgogi ac Ymgysylltu Pobl Ifanc NEET

"Canfûm fod rhannu profiad a dulliau ymgysylltu yn ddefnyddiol iawn. Mae bob tro'n ddefnyddiol i ganfod arfer dda a dod o hyd i ffyrdd eraill o ymdrin â phethau, yn arbennig y rhai hynny sydd wedi cael eu profi! Roedd yn wych cael rhywun i arwain y sesiwn sydd hefyd yn ymarferydd am ei fod yn gwneud cymaint mwy o synnwyr i bawb sy'n gysylltiedig ac yn dod yn weithgaredd grŵp go iawn. Diolch unwaith eto am y profiadau personol y wnaethoch eu rhannu!"

Angela Martin, Tricoed – Ceredigion – Ysgogi ac Ymgysylltu Pobl Ifanc NEET

“Fe wnes i fwynhau’r cwrs a chael llawer o wybodaeth werthfawr o’r hyfforddiant y gallaf ei defnyddio”

Alice Jones, Ysgol y Gwendraeth – Rheoli Ymddygiad Heriol

“Diolch am ddiwrnod gwych, byddaf yn siwr o ddweud wrth yr ysgol i ddanfon pobl eraill ar y cwrs hwn, yn enwedig staff newydd”

Rhiannon O’Sullivan, Ysgol Gyfun y Strade – Rheoli Ymddygiad Heriol

“Diwrnod rhagorol, yn llawn gwybodaeth ac wedi ei gyflwyno’n dda.”

Adrian Benyon, Is-brifathro, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr – Ysgogi ac Ymgysylltu (NEET)

“Rwyf wedi mwynhau heddiw yn fawr, roedd y cwrs yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth, a gallaf ddefnyddio’r strategaethau mewn sefyllfaoedd amrywiol sy’n codi yn fy ngwaith.  Cwrs rhagorol.”

Rhwydwaith Dysgu 14-19 Merthyr Tudful – Rheoli Ymddygiad Heriol mewn ystafell ddosbarth

“Ar ôl sawl blwyddyn yn y diwydiant hyfforddi, rwy’n teimlo bod y cwrs hwn wedi rhoi cipolwg i mi ar y ffordd y gallaf wella fy ymddygiad fy hun mewn sefyllfaoedd heriol.  Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n gweithio mewn amgylchedd dysgu.”

Fran Butler, Adeiladu Sgiliau A4e – Rheoli Ymddygiad Heriol

“Wedi ei strwythuro a’i deilwra yn arbennig o dda i gyd-fynd ag anghenion y grŵp ac mae’n dangos dealltwriaeth dda o’n problemau/anghenion dyddiol.”

Matthew Pwy, ITEC – Rheoli Ymddygiad Heriol

“Roedd y cwrs hwn yn rhagorol; rwy’n credu’n gryf y bydd yn help i ddelio â sefyllfaoedd o ymddygiad gormesol a heriol gan ddysgwyr.”

Wayne Crook, Canolfan CAD – Rheoli Ymddygiad Heriol

“Rwy’n credu y bydd y cwrs yn fy helpu yn fy swydd.  Cafodd y cwrs ei gyflwyno i safon ragorol, a dim ond canmoliaeth sydd gennyf am ei allu i roi adborth a gwrando ar yr hyn yr oedd gennym i’w ddweud – da iawn!”

Tiwtor Sgiliau Sylfaenol, Hyfforddiant Cyngor Sir Abertawe – Seiberfwlio a Diogelwch ar y Rhyngwryd

“Cwrs da iawn wedi ei baratoi a’i drefnu’n dda.  Bydd o gymorth i wella fy ymddygiad a’r ffordd y byddaf yn ymateb mewn achosion yn ymwneud â phroblemau ymddygiad.”

Tiwtor Adeiladu, Coleg Sir Benfro – Rheoli Ymddygiad Heriol

“Ar y cyfan roeddwn o’r farn bod y cwrs yn llawn gwybodaeth ac o fudd i’m swydd.  Rwy’n credu y gall y wybodaeth werthfawr yr wyf wedi ei chael fy helpu mewn sefyllfaoedd pan neu os byddant yn codi.”

Martin Stanton, Canolfan CAD – Rheoli Ymddygiad Heriol a Bwlio/Seiberfwlio

“Roedd y cwrs yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol iawn; rwy’n teimlo y bydd hyn yn helpu fy mhendantrwydd a sut i ddelio ag ymddygiad heriol pe bai sefyllfa yn codi – diolch!”

Hayley Rees, Rheolwr Hyfforddi a Datblygu, ACT – Rheoli Ymddygiad Heriol

“Rwyf yn ei argymell yn gryf ar gyfer unrhyw amgylchedd hyfforddi.  Mae’n anffurfiol, yn llawn gwybodaeth ac yn werthfawr iawn – diolch!”

Rob Watkins, Rheolwr Canolfan Hyfforddiant Torfaen – Ysgogi ac Ymgysylltu Pobl Ifanc NEET

“Sesiwn hyfforddi ragorol.  Roedd gwybodaeth y tiwtoriaid yn wych ac yn cysylltu â phrofiadau bywyd.  Mae’n ddefnyddiol cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelu a’r materion newydd sy’n ymwneud â ‘Seiberfwlio’ – diolch!”

Jane Davies, Cyfarwyddwr Adeiladu Sgiliau ACT – Seiberfwlio

“Dyma un o’r sesiynau mwyaf defnyddiol yr wyf wedi eu mynychu.  Gwybodaeth sydd mor hanfodol i ni fel darparwyr, mor berthnasol a diweddar.”

Lisa Mytton, Rheolwr Ansawdd Acorn – Rheoli Adeiladu Sgiliau Effeithiol

“Rwy’n gwybod bod y cwrs hwn wedi darparu llawer mwy o wybodaeth i mi ynglŷn â’r hyn i edrych amdano wrth atal ymddygiad dysgwr rhag gwaethygu a mynd allan o reolaeth.”

Belinda Simmons, Adeiladu Sgiliau, A4e – Rheoli Ymddygiad Heriol

Roedd y cyfan yn fuddiol yn enwedig derbyn syniadau ar gyfer man dechrau a’r cyfan wedi cael eu peilota mewn ysgolion eraill.

Michelle Pritchard, Caldicot Comprehensive School - Codi Cyrhaeddiad Addysgol Bechgyn

Darganfod pa mor bwysig mae negeseuon corfforol yn gallu bod wrth gyfathrebu yn elfin fudiol iawn  a sut i ymddwyn mewn ffordd positif tuag at eraill.

Hugh Morgans, Ysgol Llyn y Forwyn - Rheoli Ymddygiad Heriol