Seiberfwlio a Diogelwch ar y We


Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs yn berffaith i bobl broffesiynol sy’n gweithio o fewn y sector addysg ar draws Prydain yn cynnwys, ysgolion cynradd a chyfun, Colegau Addysg Bellach a darparwyr addysg o fewn y gweithle.  Mae hefyd yn addas i’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc sy ddim mewn addysg, cyflogaeth nag hyfforddiant (NEET) megis hyfforddwyr dysgu, ymgynghorwyr GyrfaonCymru a Rhwydweithiau Dysgu.  

  

Amlinelliad o'r Cwrs

Prif nod y cwrs ydy codi ymwybyddiaeth cyfranogwyr o’r effaith caiff pwysau ar les a pherfformiad unigolion. Yn allweddol, mae’r cwrs yn darparu pob unigolyn gyda ffyrdd clir, hawdd a realistig i leihau effeithiau pwysau. A thrwy hyn, gelllir gwella perfformiad, iechyd a chyd bwysedd mewn bywyd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan gyfranogwyr amryw dactegau i leihau pwysau gallant dynnu arnynt naill ai yn y gweithle neu adref.

Sut wna i elwa o’r cwrs?

  • Dealltwriaeth eglur o’r gwahaniaeth rhwng ffurfiau traddodiadol o fwlian a seiberbwlian
  • Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ffurfiau o seiberfwlian a’r defnydd o safleoedd rhyngweithio cymdeithasol, y we, ffonau     symudol
  • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r effeithiau addysgiadol, cymdeithasol, ffisegol a seicolegol caiff seiberfwlian ar y dysgwr
  • Strategaethau i ddatblygu polisiau a threfn realistig ac effeithiol er mwyn atal seiberfwlian o fewn eich sefydliad addysgiadol
  • Gwneud dysgwyr yn ymwybodol o’r gyfraith
  • Dealltwriaeth o iaith a ‘slang’ cyfathrebu ar safleoedd rhyngweithiol a ffonau symudol
  • Ymwybyddiaeth glir ar sut i drin ac adrodd seiberfwlio a materion ar lein eraill

Pam mae’r cwrs yn bwysig?

Mae bwlio yn cael effaith enfawr ar fywydau plant a phobl ifanc megis dinistrio eu hunan hyder ac hunan barch, hunan ddolurio ac hunan laddiad yn yr achosion mwyaf hunllefus.  Mae ymchwil diweddar gan yr elusen ‘Beatbullying’ yn awgrymu bod dros 71% o ddisgyblion yn teimlo dan fygythiad yn eu hysgolion, ac 17% o blant dan 14 oed yn barod i gario arf i amddiffyn eu hun.  Felly, drwy fynychu’r cwrs, fe ddysgwch y sgiliau a strategaethau i rwystro bwlio yn ein sefydliadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth allweddol i’r plant a’r pobl ifanc dan eich gofal.

Gweler yn Fframwaith Arolygu Newydd Estyn 2010 - CwA1 - 1.2      CwA2 - 2.41

Datgan Estyn 2010 

'Wrth arfarnu’r graddau y mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, gallech ystyried y graddau y mae disgyblion yn teimlo’n rhydd oddi wrth gam-drin corfforol a geiriol yn yr ysgol'

'Yn hyrwyddo atal a chael gwared ar ymddygiad gormesol, gan gynnwys bwlio, rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia:'

 
Hyd y Cwrs: Undydd                                                                           
Lleoliad: Canolfan Hyfforddiant Portal yng Nghaerdydd

 

Seiberfwlio a Diogelwch ar y We - Lawrlwythwch y copi PDF