Rheoli Ymddygiad Heriol

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs yn berffaith i bobl proffesiynol sy’n gweithio o fewn y sector addysg ar draws Prydain yn cynnwys, ysgolion cynradd a chyfun, Colegau Addysg Bellach a darparwyr addysg o fewn y gweithle.  Mae hefyd yn addas i’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc sy ddim mewn addysg, cyflogaeth nag hyfforddiant (NEET) megis hyfforddwyr dysgu, ymgynghorwyr GyrfaonCymru a Rhwydweithiau Dysgu.

  

Amlinelliad o'r cwrs

Mae’r cwrs deinamig a pharchus yma yn ffocysu ar y pwysigrwydd o rwystro ymddygiad annymunol o fewn y dosbarth drwy ddefnyddio ystod o strategaethau rheoli ymddygiad a dulliau dysgu. Mae’r strategaethau wedi profi’n llwyddiannus eisioes wrth reoli a gostwng arddangosfeydd o ymddygiad heriol gan ddysgwyr a rhieni. O ganlyniad, gwelir fod llai o straen ymysg athrawon a thiwtoriaid a thwf mewn cyrhaeddiad y dysgwr.

Sut wna i elwa o'r cwrs?

  • Datblygu hyder wrth ddelio gyda disgyblion heriol a ffocws ar sut i osgoi ymddygiad beiddgar
  • Strategaethau a thechnegau wedi’i profi ar sut i reoli ymddygiad heriol a sut i dynnu eich hun o sefyllfaoedd treisiol
  • Dangos pwysigrwydd rheoli ein hymddygiad personol wrth ddelio â disgyblion a rhieni heriol
  • Gwell gallu i reoli ymddygiad ymosodol sydd a’r potensial o fod yn dreisiol
  • Bydd cyfranogwyr yn ennill sgiliau ac arfau newydd i greu amgylchedd addysgu bositif a dealltwriaeth o bwysigrwydd canmoliaeth
  • Cyflwyniad i’r model ‘Behaviour4Learning’

Pam mae’r cwrs yn bwysig?

Mewn arolwg diweddar gan undebau athrawon, fe awgrymwyd fod 70% o athrawon wedi ystyried gadael dysgu oherwydd ymddygiad ofnadwy gan ddisgyblion a rhwng 2005-2010, bu bron i 4,000 o staff ddioddef cam driniaeth gyda rhai yn dioddef esgyrn wedi torri. Gwelwyd yn yr achosion gwaethaf staff yn cael eu taro gan arfau megis stopiau drysau, ciwiau snwcer a chadeiriau.  Maen hanfodol fod pob person syn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn derbyn hyfforddiant safonol ar sut i reoli ymddygiad heriol a threisiol.

O fewn cyd-destun arolwg Estyn ac Ofsted, mae ymddygiad dysgwyr yn ganolog i holl broses arolwg

Datgan Estyn 2010 

'Wrth arfarnu ymddygiad ac agweddau, dylech ystyried y graddau y mae disgyblion yn dangos ymddygiad da mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol'

Hyd y cwrs: Undydd                           

Lleoliad: Mae'n bosib cynnal yr hyfforddiant naill ai yn ein Canolfan Hyfforddiant yng Nghaerdydd neu yn eich sefydliad/ysgol.
 

Rheoli Ymddygiad Heriol - Lawrlwythwch y copi PDF