Cyrsiau
Cyrsiau
• Ennill ‘Rhagorol’ i’ch Ysgol o fewn Fframwaith Arolygu newydd Estyn
Bydd y cwrs unigryw a mewnweledol yma yn ateb gofynion Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a Fframwaith Arolygu newydd Estyn.
Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru 2009-2010.
“Yn drydydd, mae angen i ni gael hyfforddiant gwell ar gyfer arweinwyr a gweithwyr addysg proffesiynol hefyd a fydd yn eu helpu i fagu hyder a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio. Mae angen i ni hyrwyddo a meithrin amgylchedd o greadigrwydd ac arloesedd yn yr ystafell ddosbarth.”
“Gellir ond mynd i’r afael â’r heriau hyn yn effeithiol trwy fwy o gydweithio, gyda mwy o ddarparwyr addysg a hyfforddiant, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn gweithio gyda’i gilydd i rannu adnoddau, data ac arfer orau. Mae angen i ni ymateb yn gadarnhaol i heriau’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.”
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Hyfforddiant Teilwredig
Yn Portal rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynllunio, yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant teilwredig sy’n bodloni anghenion penodol ac amrywiol ein cwsmeriaid yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a phob agwedd ar eu haddysg. O ganlyniad rydym yn fwy na pharod i wrando ar ofynion ein cwsmeriaid a sefydlu rhaglenni hyfforddiant pwrpasol, cost effeithiol a fydd yn datblygu gallu eich ysgol neu sefydliad i reoli, ysgogi a datblygu dysgwyr ac yn hanfodol, gwella hyder ac effeithiolrwydd eich staff. Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni am drafodaeth anffurfiol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein pecynnau hyfforddiant pwrpasol.
• Seiberfwlio a Diogelwch ar y We
Prif nod y cwrs ydy codi ymwybyddiaeth cyfranogwyr o’r effaith caiff pwysau ar les a pherfformiad unigolion. Yn allweddol, mae’r cwrs yn darparu pob unigolyn gyda ffyrdd clir, hawdd a realistig i leihau effeithiau pwysau. A thrwy hyn, gelllir gwella perfformiad, iechyd a chyd bwysedd mewn bywyd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan gyfranogwyr amryw dactegau i leihau pwysau gallant dynnu arnynt naill ai yn y gweithle neu adref.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Datblygu Llythrennedd Emosiynol a Hybu Lles Disgyblion
Bwriad yr hyfforddiant yw codi ymwybyddiaeth ar faterion sy'n berthnasol i faes llythrennedd emosiynol a lles a'ch arwain i weithredu ar y rhain er lles academaidd, emosiynol a chymdeithasol disgyblion. Wedi edrych ar gefndir ymchwil yn y maes, rhoddir gyfle i chi i ddysgu am strategaethau ymarferol sydd wedi bod yn effeithiol wrth ddatblygu llythrennedd emosiynol, gwytnwch a hunan hyder disgyblion ac sydd yn sicrhau bod ysgolion yn datblygu'r disgybl fel person cyfan o fewn yr ysgol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Gwella Presenoldeb y Dysgwyr Di-Gymhelliant
Perspectif Estyn - beth yn union y maent yn chwilio amdano? Esiamplau o arfer da a welwyd gan Arolygydd Estyn. Yr ystadegau - beth ydy graddfa’r broblem? Ble mae’r broblem? Beth ydy’r rhesymau dros golli cymhelliant? Strategaethau i oresgyn y rhwystrau.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Llais y Dysgwr
Mae’r cwrs arloesol hwn wedi ei gynllunio i ddangos sut gall cyfranogiad y dysgwr yn y broses o wneud penderfyniadau arwain at ddysgu, polisïau a chydberthynas mwy perthnasol ac effeithiol. Yn bwysig iawn, mae rhoi llais anffurfiol i ddysgwyr yn eu helpu i fagu hyder a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu. Mae’r cyfuniad o Lais y Dysgwr ac Asesu ar gyfer Dysgu yn rymoedd allweddol wrth ddatblygu Ysgol gynhwysol ‘Ragorol’. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys elfennau allweddol o Asesu i Ddysgu.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Rheoli Ymddygiad Heriol
Mae’r cwrs deinamig a pharchus yma yn ffocysu ar y pwysigrwydd o rwystro ymddygiad annymunol o fewn y dosbarth drwy ddefnyddio ystod o strategaethau rheoli ymddygiad a dulliau dysgu. Mae’r strategaethau wedi profi’n llwyddiannus eisioes wrth reoli a gostwng arddangosfeydd o ymddygiad heriol gan ddysgwyr a rhieni. O ganlyniad, gwelir fod llai o straen ymysg athrawon a thiwtoriaid a thwf mewn cyrhaeddiad y dysgwr.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Ysgogi ac Ymgysylltu Pobl Ifanc NEET
Mae'r ffigurau mwyaf diweddar ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET), a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn dangos ar hyn o bryd bod 11.5% o bobl ifanc 16-18 oed yng Nghymru yn NEET (14,000) gyda chyfraddau NEET tebyg wedi eu cofnodi ar draws gweddill y DU. O ganlyniad mae Hyfforddiant Portal wedi cynllunio a chyflwyno nifer o gyrsiau arloesol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phobl NEET fel Gweithwyr Ieuenctid, Hyfforddwyr Dysgu, Cynghorwyr Gyrfaoedd a Thiwtoriaid Adeiladu Sgiliau (E2E). Yn ystod y diwrnodau hyfforddiant arloesol yma, mae'r cyfranogwyr yn magu sgiliau sydd yn eu galluogi i ymgysylltu ac ysgogi pobl ifanc NEET. Mae hyn felly yn eu galluogi a'u hysbrydoli i ddatblygu a gwella eu darpariaeth addysgol bresennol a gyflwynir i'r garfan benodol hon o bobl ifanc, sydd ar hyn o bryd yn byw ar ymylon ein cymdeithas wrth iddynt ddychwelyd i Addysg, Hyfforddiant neu Gyflogaeth.
Trwy gydol y diwrnod hyfforddiant arloesol hwn, caiff y cyfranogwyr eu hannog i feddwl sut y gallant ddatblygu adnoddau a deunyddiau dysgu cyfredol i gyd-fynd â’r ystod o arddulliau dysgu sy’n unigryw i’r person ifanc. A thrwy datblygu'r adnoddau yma, sicrhau gwell mynediad i’r cwricwlwm i’r dysgwr, gyda’r nod o ddatblygu eu cymhelliant, eu hymdeimlad o gyflawniad a chodi eu hunan-barch.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Hybu Dwyieithrwydd a’r Dimensiwn Cymreig
Cyniga’r cwrs unigryw yma, gyngor ymarferol a deunydd i hwyluso’r broses o hybu dwyieithrwydd o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg ar draws Cymru. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio gyda gofynion a chanllawiau arolygaeth newydd Estyn mewn golwg. Mae hefyd yn edrych ar y Dimensiwn Cymreig o fewn cwricwlwm yr ysgol yn ogystal â sut i gynllunio, monitro a gwerthuso y sefyllfa bresennol o fewn ysgol/sefydliad.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Codi Cyrhaeddiad Addysgol Bechgyn
Cwrs wedi’i gynllunio i ddarparu addysgwyr gyda syniadau, sgiliau a thechnegau addysgu a fydd o gymorth i sicrhau fod bechgyn yn cyraedd eu llawn potensial addysgiadol a chymdeithasol. Bydd y cwrs yn rhoi strategaethau a chyngor syml, clir ac effeithiol i sicrhau ymrwymiad a chymhelliant bechgyn ac felly codi eu cyrhaeddiad. Yn bwysicach, bydd darparwyr
yn gadael y cwrs gydag arfau a chynllun gweithredu i’w defnyddio o fewn eu hysgolion/cyfundrefnau i godi safonau a chyrhaeddiad addysgiadol bechgyn.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Diogelu Dysgwyr
Cwrs hyfforddiant sydd wedi’i anelu at staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc ar draws ystod eang o sefyllfaoedd addysgiadol. Amcan yr hyfforddiant ydy codi ymwybyddiaeth cyfranogwyr o’r materion sy’n amgylchynu deddfwriaeth diogelwch plant, mathau o gam drin a goblygiadau Diogelu Plant o fewn yr amgylchedd addysgiadol.
Yr amcan allweddol ydy datblygu hyder a sgiliau y cyfranogwyr wrth ddelio gyda materion Diogelwch ac yn bwysicach, adnabod arwyddion o gam drin.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
• Rheoli Pwysau a Lles Staff
Mae pwysau yn un o elfennau annatod ein bywyd dyddiol: fedr ei ddisgrifio fel y pwysau a brofir o fewn unrhyw elfen o’ch bywydau. Yn syml, gellir diffinio pwysau fel:
“Y newidiadau a ddigwydd i’r corff a’r meddwl pan welir bod y gofynion yn fwy na’r gallu i ymdopi”
Prif nod y cwrs ydy codi ymwybyddiaeth cyfranogwyr o’r effaith caiff pwysau ar les a pherfformiad unigolion. Yn allweddol, mae’r cwrs yn darparu pob unigolyn gyda ffyrdd clir, hawdd a realistig i leihau effeithiau pwysau. A thrwy hyn, gellir gwella perfformiad, iechyd a chyd bwysedd mewn bywyd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan gyfranogwyr amryw dactegau i leihau pwysau gallant dynnu arnynt naill ai yn y gweithle neu adref.



 (2).jpg)