Amdanom Ni
Mae Hyfforddiant Portal wedi ei leoli yng Nghaerdydd, De Cymru ac yn ddiweddar mae wedi darparu contractau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i Lywodraeth Cymru (Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau – APADGOS). Mae hyn wedi cynnwys Rhwydweithiau Dysgu 14-19 a nifer fawr o Ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith annibynol, ledled Cymru. Mae Portal nid yn unig yn cyflwyno Hyfforddiant DPP ond mae hefyd yn cynnig pecynnau gwasanaeth ymgynghori yn canolbwyntio ar wella amgylcheddau dysgu, datblygu cwricwlwm a rheoli prosiectau pwrpasol.
Mae gan y cwmni 2 Gyfarwyddwr, sef Gareth Davies a Gwawr Booth, ynghyd â thîm o ymgynghorwyr arbennig o dalentog sydd a phrofiad eang o fod yn ymarferwyr dosbarth. Mae gan Portal dim o bobl sy'n allweddol wrth sicrhau answadd uchel o brosesau.

Mae gan Gareth Davies, dros 15 mlynedd o brofiad o weithio'n uniongyrchol gyda Throseddwyr Ifanc a phobl ifanc NEET ar draws De Cymru, mewn rhinwedd ymgynghorol ac ar lefel rheoli strategol ar gyfer Gyrfa Cymru a Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc Caerdydd. Dros y blynyddoedd, mae Gareth wedi datblygu ystod eang o strategaethau ac offer i ysgogi'r bobl ifanc mwyaf heriol sydd wedi ymddieithrio o ddysgu, â'r nod o'u hymgysylltu mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant. Mae'r hyfforddiant sy'n cael ei gyflwyno gan Portal yr un mor berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau prif ffrwd fel ysgolion, ag ydyw i'r rheiny sy'n gweithio mewn sefydliadau Troseddwyr Ifanc.
Mae gan Gwawr Booth dros 15 mlynedd o brofiad o addysgu ac hynny o fewn pedair ysgol gyfun fawr ar draws de Cymru. Roedd yn Bennaeth Cynorthwyol yn ei blwyddyn olaf o ddysgu cyn dechrau gyda chwmni Hyfforddiant Portal a chyn hynny yn Bennaeth ar Adran y Gymraeg a’r Gyfadran Ddwyieithrwydd yn Ysgol Gyfun Treorci . Ei hiaith gyntaf ydy’r Gymraeg ac mae'n cyflwyno ei chyrsiau yn ddwyieithog.




 (2).jpg)